
Addysg, Ymchwil a Gweinyddiaeth
Nod y prosiect yma oedd galluogi cymuned addysgu a dysgu sefydliad addysg uwch Atlântica i fod yn fwy rhyngwladol. Trwy ymweliadau astudio, addysgu, a hyfforddi byr i wledydd eraill yn Ewrop, rhoddodd y prosiect help i fyfyrwyr a staff feithrin gwybodaeth, sgiliau, a chysylltiadau newydd. Cafodd ei gynllunio i roi cyfle i fwy o bobl - yn enwedig myfyrwyr sy’n cyfuno astudio a gweithio - i gael profiad rhyngwladol. Drwy weithio gyda phrifysgolion partner yng Ngwlad Pwyl, yr Eidal, Sbaen, a’r Almaen, llwyddodd Atlântica i atgyfnerthu addysgu, hybu datblygiad proffesiynol, a helpu myfyrwyr i baratoi ar gyfer byd sy’n fwyfwy cysylltiedig.
Gwledydd a gymerodd ran | Portiwgal |
|---|---|
Cyfnod | 2023-25 |
Cyllid | €17,923 |
Math o brosiect | Symudedd Myfyrwyr a Staff Addysg Uwch |
Cefndir
Sefydliad addysg uwch ym Mhortiwgal yw Atlântica. Mae’n cynnwys dwy ysgol: Atlântica – Sefydliad y Brifysgol, ac Ysgol Iechyd Atlântica. Mae rhyngwladoli’n rhan o uchelgais ehangach Atlântica i wella addysgu, cynyddu cyfleoedd academaidd a phroffesiynol, a pharatoi myfyrwyr ar gyfer byd sy’n fwyfwy cysylltiedig.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r sefydliad wedi cymryd rhan mewn nifer o brosiectau Erasmus+, gan feithrin cysylltiadau â phrifysgolion a darparwyr addysg uwch ledled Ewrop a thu hwnt.
Roedd y prosiect yma, a gynhaliwyd rhwng Mehefin 2023 a Gorffennaf 2025, yn canolbwyntio ar symudeddau i fyfyrwyr a staff addysg uwch. Cafodd ei amlygu’n ‘enghraifft o arfer da’ am ei fod wedi gweithio i droi her ymarferol yn gyfle: sut mae myfyrwyr yn gallu cael profiad rhyngwladol pan fo llawer ohonynt hefyd yn gweithio?
Amcanion: Sicrhau bod symudedd yn bosibl i bawb
Prif nod y prosiect oedd cryfhau rhyngwladoliaeth cymuned academaidd Atlântica drwyddi draw. Roedd hynny’n golygu rhoi cefnogaeth i fyfyrwyr, athrawon, ac
aelodau o’r staff fanteisio ar gyfleoedd i ennill profiad mewn lleoliadau addysg uwch eraill yn Ewrop, cyfnewid syniadau â phartneriaid, a dod â’r hyn a ddysgwyd ac arferion da yn ôl i’r sefydliad.
Roedd cynhwysiant yn un o brif ystyriaethau’r prosiect. Mae nifer fawr o fyfyrwyr Atlântica yn cyfuno gweithio gydag astudio. I’r myfyrwyr hyn, gall ymweliadau hir i wledydd tramor fod yn anodd oherwydd eu dyletswyddau gwaith a chyfyngiadau ar eu hamser. Gwelodd y sefydliad y gallai symudeddau tymor byr fod yn ffordd ymarferol o sicrhau y gallai mwy o fyfyrwyr fanteisio ar brofiadau rhyngwladol.
Roedd meithrin cysylltiadau gyda sefydliadau partner, ehangu rhwydweithiau proffesiynol ac academaidd, a hybu gwelliannau mewn addysgu ac ymchwil hefyd yn rhan o fwriad y prosiect. I’r myfyrwyr, roedd y buddion arfaethedig yn cynnwys dysgu technegol a gwyddonol, magu mwy o hyder ac annibyniaeth, a meithrin sgiliau cyfathrebu rhyngddiwylliannol cryfach. O ran y staff, roedd y ffocws ar ymarfer addysgu, hyfforddiant, cydweithredu, a datblygu gweithgareddau ar y cyd newydd.
Roedd y prosiect yn hyderus y gallai rhaglen o symudeddau byrrach gynnig cyfleoedd dysgu rhyngwladol ystyrlon a defnyddiol - cyhyd â bod cysylltiad uniongyrchol rhwng y gweithgaredd arfaethedig â maes astudio’r myfyrwyr, a chyhyd â’u bod yn cael cefnogaeth gan sefydliadau partner sefydledig.
Rhoi’r prosiect ar waith
Defnyddiodd Atlântica holl grant y prosiect i gyflawni 31 o symudeddau - cyfanswm tipyn mwy na’r bwriad gwreiddiol. Cafodd hyn ei gyflawni drwy addasu’r prosiect wrth iddo fynd yn ei flaen a throsglwyddo cyllid rhwng categorïau yn ôl yr angen.
Cymerodd y myfyrwyr ran mewn 21 o symudeddau astudio tymor byr. Cynhaliwyd naw ohonynt drwy raglen gyfunol ddwys gydag Akademia Tarnowska yng Ngwlad Pwyl, gyda myfyrwyr oedd yn astudio ar gyfer gradd Meistr mewn Nyrsio Adsefydlu a myfyrwyr oedd yn astudio ar gyfer gradd mewn Ffisiotherapi.
Teithiodd 11 o fyfyrwyr nyrsio i Università degli Studi di Firenze yn yr Eidal, tra aeth myfyriwr nyrsio eraill i Universidad Pontificia de Salamanca (campws Madrid) i gyflawni symudedd tymor byr.
Yn ogystal, rhoddodd y prosiect gefnogaeth i ddeg o symudeddau staff. Teithiodd tri athro ffisiotherapi i gampws Madrid Salamanca ar gyfer gweithgareddau addysgu, gan gynnwys cymryd rhan mewn rhaglen gyfunol. Cafodd saith o symudeddau hyfforddiant staff eu cynnal mewn sefydliadau partner yn Sbaen, Gwlad Pwyl, a’r Almaen - gan gynnwys prifysgolion Málaga, Valencia a Las Palmas de Gran Canaria, Duale Hochschule Baden-Württemberg Villingen-Schwenningen ac UAS Tarnow.
Drwy’r symudeddau hyn, cafodd y myfyrwyr gyfle i archwilio gwahanol ddulliau ym maes addysg gofal iechyd; cafodd yr athrawon gyfle i gyfnewid dulliau addysgu yn yr
ystafell ddosbarth; a chafodd aelodau o’r staff gyfle i feithrin sgiliau newydd a chysylltiadau rhyngwladol.
Canlyniadau
Nododd y myfyrwyr a gymerodd ran eu bod wedi elwa wrth ennill gwybodaeth dechnegol a gwyddonol, a sgiliau ehangach fel; addasu; hunangynhaliaeth; mentrusrwydd; a chyfathrebu rhyngddiwylliannol. Gan mai gweithgareddau byr-dymor oedd y rhain, roedd myfyrwyr â swyddi yn gallu cymryd rhan hefyd – gan nad oedd yn rhaid iddynt adael eu gwaith am gyfnod hir. O ganlyniad, roedd y symudeddau’n dipyn mwy cynhwysol ac yn help i ehangu mynediad i ddysgu rhyngwladol.
I’r staff, bu’r ymweliadau addysgu a hyfforddi yn gyfle i datblygu sgiliau addysgeg newydd - sydd wedi cyfrannu at wella’r ddarpariaeth academaidd yn gyffredinol. Hefyd, bu’r rhaglenni cyfnewid yn gyfle i gryfhau cydweithio proffesiynol a gwyddonol, gan hybu cysylltiadau gwaith newydd, cyfleoedd i gymryd rhan mewn digwyddiadau rhyngwladol, a chyfleoedd ar gyfer cyhoeddiadau a phrosiectau at y dyfodol.
Cafodd y prosiect effaith y tu hwnt i’r symudeddau hefyd. Ar ôl dychwelyd, cafodd y myfyrwyr a’r staff gyfle i rannu a thrafod eu profiadau gydag eraill yn y sefydliad, gan sbarduno mwy o ddiddordeb yng nghyfleoedd rhaglen Erasmus+. Drwy gyfuno fformatau symudedd hyblyg â phartneriaethau oedd eisoes ar waith, llwyddodd sefydliad Atlântica i gryfhau ei broffil rhyngwladol drwy greu model oedd yn ateb anghenion ei gymuned academaidd ei hun.
I gael mwy o wybodaeth am yr astudiaeth achos yma, ewch i fas data prosiectau Erasmus+: https://erasmus-plus.ec.europa.eu/projects/search/details/2023-1-PT01-KA131-HED-000127683