A group of young people from different ethnicities, each with a frniedship bracelt, put their hands into a circle

Awgrymiadau Defnyddiol: Dechrau arni gydag Erasmus+

Mae’r awgrymiadau hyn yn cynnwys cyngor gan bobl sydd wedi cymryd rhan yn rhaglen Erasmus+ o’r blaen, yn eu geiriau eu hunain, yn ogystal â chyfraniadau gan ein harbenigwyr ar wahanol rannau o’r rhaglen. Mae’r rhan gyntaf yma’n edrych ar: y gwaith cynllunio cychwynnol; rheoli’r gwaith papur; sicrhau bod y bobl iawn yn cymryd rhan gyda chi; amseru a llunio amserlenni.

1. Dechreuwch gyda ‘pam’, nid ‘beth’

'Dechreuwch gyda ‘pam’, nid ‘beth’. Byddwch yn glir am beth sydd angen ei gyflawni cyn ysgrifennu unrhyw beth.'   Cyfarwyddwr | IVOLO


2. Dechreuwch yn gynnar

'Os ydych chi’n ystyried gwneud cais, fy nghyngor i yw: dechreuwch yn gynnar. Edrychwch ar wahanol elfennau’r rhaglen, a chanolbwyntiwch ar sut y gall eich gwaith elwa ar gydweithredu rhyngwladol. Mae Erasmus+ yn cynnig llawer mwy na chyllid yn unig; mae’n agor y drws i syniadau newydd, partneriaid newydd, a ffyrdd newydd o roi cefnogaeth i ddysgwyr. Gall hyd yn oed sefydliad bach elwa, ac mae’r broses ymgeisio’n llawer haws unwaith y byddwch yn gwybod beth yw eich blaenoriaethau ac wedi dewis prosiect sy’n cydfynd â’ch cenhadaeth. Byddwn i’n annog unrhyw un i gymryd y cam cyntaf, dysgu am y rhaglen, a bod yn agored i’r posibiliadau mae’n eu creu.'

- Cwmni Buddiant Cymunedol Waltham Forest Adult Skills Centre


3. Cadwch mewn cysylltiad â’r Asiantaeth Genedlaethol (y British Council!); rydyn ni yma i’ch cefnogi chi

'Er bod paratoi’r cais yn dipyn o waith, ac er bod llawer o waith papur, mae ‘na bobl yna i’ch helpu chi ar hyd y ffordd gyda’ch prosiect: wnewch chi ddim difaru manteisio ar y cyfle anhygoel yma i ehangu eich gwybodaeth a darganfod mwy am ddulliau addysgu. Byddwn i’n argymell ymgeisio – yn sicr!'                                        C Picking | Ysgol St Cedd's


4. Gwnewch yn siwr eich bod yn cael cefnogaeth gan eich sefydliad

'Mae’n hollbwysig fod yr ymgeisydd yn cael cefnogaeth lawn ac ymrwymiad gan y corff maen nhw’n ei gynrychioli - i sicrhau bod y prosiect yn cael yr adnoddau priodol, a’i fod yn ddiogel ac yn cael ei reoli’n effeithiol.'

South Gloucestershire and Stroud College – prosiect ar gyfer myfyrwyr cwrs Diploma Rhagoriaeth Mewn Chwaraeon (DiSE)  


5. Gwnewch yn siwr eich bod yn gosod sylfaen ariannol gadarn o'r dechrau

'Bydd pobl yn craffu’n fanwl ar eich cyllideb a’ch gallu ariannol. Gwnewch yn siwr bod eich gallu ariannol yn ddigonol. Mae’r Asiantaeth Genedlaethol yn cymryd hyn o ddifrif. Gellir gwrthod prosiect â chysyniad cryf os nad yw’r cydlynydd yn gallu dangos bod eu sefyllfa ariannol yn ddigon cadarn i gyfiawnhau derbyn arian ymlaen llaw, a rhoi sicrwydd eu bod yn gallu cyflawni’r prosiect. Mae'n syniad da gwirio hyn yn gynnar — naill ai drwy ddewis cydlynydd mewn sefyllfa ariannol fwy sefydlog, neu drwy rannu'r cyfrifoldeb ariannol o fewn y consortiwm.'              Carl De Meester / Move your mind


6.  Peidiwch â chael braw

'Dw i’n gwybod y gall hyn i gyd edrych yn frawychus iawn – gall holl waith papur yr UE a’r gofynion monitro, cyfrifyddu, a chasglu data deimlo fel gormod o fynydd i’w ddringo. Ond mae’r holl fanteision i bawb sy’n cymryd rhan mewn prosiect Erasmus+ yn fwy na hynny, ac yn werth yr holl ymdrech. Ac mewn gwirionedd, yn y pendraw mae’r holl waith papur yn creu strwythur sy’n galluogi’r sefydliadau sy’n cymryd rhan i ddangos canlyniadau, ffrwyth llafur ac effeithiau unrhyw brosiect sy’n cael ei gefnogi gan y rhaglen.' Robin Lockhart | Catalyst in Communities CIC 

'Ydy, mae’n dipyn o ymrwymiad, ac mae angen cynllunio’n ofalus; ond mae’r buddion - i’ch cyfranogwyr, eich staff, a’ch sefydliad – yn wirioneddol werth chweil. Fy nghyngor i fyddai: ffeindiwch y partneriaid iawn, byddwch yn glir am yr hyn rydych am ei gyflawni, a chofleidiwch y profiad yn llawn. Fe gewch fwy o fudd o’r profiad na fyddwch yn ei ddisgwyl.'  Susan Russam | ITER (Improving Transitions, Enabling Results)


Mae tîm yr Asiantaeth Genedlaethol yma i’ch helpu. Ymunwch ag un o’n digwyddiadau a chofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr i gael y newyddion diweddaraf, neu cysylltwch â ni gydag unrhyw gwestiynau sydd gennych.

“Canolbwyntiwch ar sut y gall eich gwaith elwa ar gydweithredu rhyngwladol.” 

Os ydych chi wedi cymryd rhan mewn prosiect Erasmus+ yn y gorffennol, beth am rannu eich awgrymiadau chi gyda ni?