Grymuso a newid bywydau; a newid cymuned drwy fentora safon uchel

Mae Canolfan Menywod Kilcooley yn gwasanaethu ystâd o dai a godwyd i gartrefu pobl a gafodd eu disodli o Belfast yn ystod cyfnod ‘Y Trafferthion’ yng Ngogledd Iwerddon. Mae diweithdra, ynysu cymdeithasol, ac eithrio yn dal i effeithio’r trigolion yno. Wrth weld fod prinder mentoriaid yn y gymuned, defnyddiodd y ganolfan gyllid Erasmus+ ar gyfer Prosiect Mentora Safon Uchel Arolesol i Hybu Cynhwysiant Cymdeithasol

Gwledydd a gymerodd ran:

Gogledd Iwerddon, Slofacia, Rwmania, Twrci

Cyfnod:

2015-17

Cyllid:

€271,162.00

Math o brosiect:

Partneriaeth Strategol ar gyfer Addysg Oedolion

Profiad o fywyd yn ysgogi arweiniad cymunedol

Ar ystâd o dai a godwyd i gartrefu pobl a gafodd eu disodli o Belfast yn ystod cyfnod ‘Y Trafferthion’ yng Ngogledd Iwerddon, mae Canolfan Menywod Kilcooley yn gweithio i feithrin cymuned fwy gwydn a chefnogol drwy fentora.

Nododd y ganolfan fod angen mwy o fentoriaid hyfforddedig i gynorthwyo pobl oedd yn ceisio ymdopi ag ynysu ac eithrio cymdeithasol. Gyda help cyllid Erasmus+ arweiniodd hyn at greu Prosiect Mentora Safon Uchel Arloesol i Hybu Cynhwysiant Cymdeithasol.

Daeth y prosiect â sefydliadau o wledydd Ewropeaidd at ei gilydd i edrych ar sut y gallai dulliau mentora cymdeithasol helpu pobl oedd mewn perygl o gael eu heithrio i deimlo mwy o gyswllt â’u cymunedau, magu hyder, ymgysylltu, a chyfrannu i fywyd eu cymunedau.

Rhannu arbenigedd ar draws Ewrop

Un o’r camau allweddol cyntaf oedd ystyried beth mae bod yn fentor cymunedol yn ei olygu ym mhob un o’r gwledydd oedd yn cymryd rhan yn y prosiect. Yna, rhoddwyd hyfforddiant mewn mentora cymunedol i ddau hyfforddwr o bob gwlad, fel y gallent hwythau’n eu tro ddychwelyd i’w sefydliadau a’u cymunedau i rannu a lledaenu’r hyn yr oeddent wedi’i ddysgu.

Gyda’i gilydd, datblygodd y partneriaid gynllun hyfforddi a modiwlau mentora a gafodd eu profi a’u mireinio gan eu sefydliadau. Cyhoeddwyd ffrwyth eu llafur mewn canllaw arfer gorau a llawlyfr hyfforddi.

Roedd y prosiect yn enghraifft dda o werth cydweithredu Ewropeaidd; er bod cymunedau ar draws Ewrop yn wynebu sefyllfaoedd ac amodau gwahanol, mae llawer yn wynebu heriau cyffredin o ran ynysu cymdeithasol, eithrio, a diffyg cyfle.

“Mae Erasmus+ wedi creu cyfle gwych i ddysgu a rhannu gyda gwledydd eraill. Mae gan bob gwlad wahanol sefyllfaoedd, ond heriau tebyg. Rydyn ni wedi ffurfio perthnasoedd gwaith da gydag amrywiaeth eang o sefydliadau Ewropeaidd, sydd wedi’n galluogi ni i rannu arfer gorau rhwng ein cymunedau” meddai Lynne Bloomfield, cyfarwyddwr gweithredol y ganolfan.

Mae’r prosiect wedi cael effaith arbennig o bwerus am fod llawer o’r cyfranogwyr wedi profi unigrwydd, ynysu neu anfantais gymdeithasol eu hunain.

Drwy gefnogaeth un o fentoriaid y prosiect, cafodd Donna McIlroy o Belfast ei hysbrydoli i ail gydio yn ei haddysg a chael gwaith cyflogedig. Aeth yn ei blaen i hyfforddi fel cwnsler a chymryd rhan yn y prosiect. Bellach, mae Donna’n gweithio gyda goroeswyr camdriniaeth a thrais rhywiol, gan ddefnyddio ei sgiliau a’i phrofiad i roi cefnogaeth i eraill.

Mae hanes Gina Murray’n dangos sut y gall mentora ysgogi newid parhaol ym mywydau pobl. Collodd Gina ei merch 13 oed, Leanne, wedi ymosodiad bomio Shankill Road yn Belfast yn 1993. Cafodd y golled effaith ddirfawr ar ei hiechyd meddwl a’i gwneud yn amhosibl iddi weithio ac yn anodd iddi ymdopi â bywyd bob dydd.

Dechreuodd ei bywyd newid pan ddaeth i gysylltiad â rhaglen fentora arloesol Canolfan Menywod Kilcooley. Yna, pan ddaeth cyfle drwy’r prosiect iddi hyfforddi fel mentor ei hunan, roedd hi’n awyddus iawn i gymryd rhan. Ers hynny, mae taith ddysgu Gina wedi mynd o nerth i nerth, a bellach mae wedi cwblhau hyfforddiant Lefel 1 mewn Mentora.

Nawr, mae Gina’n rhoi cefnogaeth i bobl hŷn yn y gymuned sy’n ceisio ymdopi ag ynysu cymdeithasol, gan eu helpu i fagu hyder a hunan-werth a chymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol. Mae hefyd wedi sefydlu grŵp Sgowtiaid ar ystâd Kilcooley i blant o gefndiroedd difreintiedig, gan rannu a lledaenu’r hyn y mae wedi’i ddysgu i helpu gwirfoddolwyr yn y gymuned i ddod yn arweinwyr Sgowtiaid.

Model y gellir ei rannu

O ran Canolfan Menywod Kilcooley, mae rhaglen Erasmus+ wedi cael effaith y tu hwnt i gwmpas y prosiect yn unig. Nawr, mae gan y Ganolfan fwy o arbenigedd mewn mentora cymunedol, ac mae cyfranogwyr wedi datblygu sgiliau y maent yn eu defnyddio i gefnogi eraill a chreu cyfleoedd newydd yn eu cymunedau.

Mae’r prosiect hefyd wedi dangos gwerth datblygu adnoddau ymarferol y gellir eu haddasu a’u rhannu. Drwy gyfuno profiad Ewropeaidd a gwybodaeth leol, mae’r Prosiect Mentora Safon Uchel Arloesol i hybu Cynhwysiant Cymdeithasol wedi creu model ar gyfer mentora cymunedol sy’n helpu sefydliadau i roi cefnogaeth i bobl sydd mewn perygl o gael eu heithrio. A llawn mor bwysig, mae’n grymuso pobl sydd â phrofiad o fywyd i fod yn fentoriaid ac arweinwyr cymunedol eu hunain.

Mae’r prosiect wedi creu cylch parhaus o ddysgu a chefnogaeth: mae pobl sydd wedi elwa o gael eu mentora yn dysgu sgiliau a magu hyder i fentora eraill, a thrwy hynny’n cryfhau eu cymunedau.

I gael mwy o wybodaeth am yr astudiaeth achos yma, ewch i fas data prosiectau Erasmus+.

Gyda’r sgiliau a’r hyder a gefais, dw i bellach yn pasio’r hyn a ddysgais ymlaen i’r tîm o wirfoddolwyr dw i’n eu mentora, - i sicrhau eu bod nhw’n dod yn Arweinwyr Sgowtiaid o’r radd flaenaf.

Gina Murray