
Yn Eco Château: Datblygu Sgiliau a Hyder a Chreu Cyfleoedd
Cafodd myfyrwyr ar gyrsiau Adeiladu ac Arlwyo gyfle unigryw i newid eu bywydau diolch i gyllid rhaglen Erasmus+. Cawsant gyfle i ddatblygu sgiliau ymarferol a magu hyder drwy fanteisio ar brofiadau o fywyd go iawn yn Ffrainc.
Gwledydd a gymerodd ran: | Lloegr, Ffrainc |
|---|---|
Cyfnod: | 2015-17 |
Cyllid: | €341,920.00 |
Math o brosiect: | Rhaglen Symudedd i fyfyrwyr mewn Addysg Glwedigaethol |
Dros gyfnod o bedair blynedd, rhoddodd cyllid Erasmus+ gyfle i fyfyrwyr o Goleg East Sussex Coast fanteisio ar leoliadau pythefnos fel rhan o brosiect Eco Château yng ngogledd Ffrainc.
Cafodd y rhaglen ei llunio ar gyfer myfyrwyr ar gyrsiau Adeiladu ac Arlwyo’r coleg. Roedd y myfyrwyr yn aros mewn hostel mewn tref fach o’r enw Tinchebray-Bocage yn Normandi Isaf, gan weithio’n ddyddiol gyda thiwtoriaid a staff prosiect cyfagos i adfer château o’r 17eg ganrif. Cododd y cyfle ar ôl i sefydliad yn Brighton oedd yn hwyluso prosiectau Erasmus+ gysylltu â’r coleg.
Er bod swyddi gwahanol iawn gan y ddau grŵp o fyfyrwyr, roedden nhw i gyd yn gweithio i gyrraedd yr un nodau: ennill profiad ymarferol a datblygu amrywiaeth o sgiliau bywyd fel cyfathrebu, gweithio fel rhan o dîm, datrys problemau, a chael profiad o’r byd y tu hwnt i’w milltir sgwâr.
Dysgu’r tu hwnt i welydd yr ystafell ddosbarth
I fyfyrwyr y cwrs Adeiladu, roedd y trip yn gyfle i weithio ar brosiect lle roeddynt yn helpu i adfer adeilad go iawn - nid dim ond dysgu mewn ystafell ddosbarth neu weithdy. Cawsant brofiad o waith ymarferol yn y Château, gan ddysgu am dechnegau adeiladu cynaliadwy a heriau gorfod datrys problemau ar safle adeiladu go iawn. Roedd yn gyfle iddyn nhw feithrin dealltwriaeth o heriau gweithio ar hen adeilad, a dysgu am addasu i sefyllfaoedd anghyfarwydd. Yn ogystal, roedd yn rhaid iddynt fod yn hyblyg, a dysgu gweithio gyda’i gilydd i gyflawni’r gwaith.
Roedd llawn cymaint o gyfrifoldeb ar ysgwyddau’r myfyrwyr Arlwyo. Roedden nhw’n gyfrifol am redeg holl agweddau’r gwaith o fwydo’r grŵp - brecwast, cinio, a chinio hwyr. Roedd hynny’n golygu cynllunio bwydlenni o ansawdd uchel o fewn cyllideb benodol, prynu cynhwysion, a gwneud yn siwr fod pawb yn cael eu bwydo. Roedden nhw’n gyfrifol am ffeindio cynyrch addas o farchnadoedd a chan gyflenwyr lleol. Roedd y gwaith hefyd yn gyfle i’r myfyrwyr weld o ble mae bwyd yn dod - drwy ymweliadau â ffermydd, cynhyrchwyr, a ffatrioedd bwyd.
Cafodd y myfyrwyr gyfle hefyd i fanteisio ar dripiau ychwanegol, gan gynnwys ymweliadau â fferm eifr leol a sawl distyllfa. Roedd yr ymweliadau hyn yn cynnig profiad uniongyrchol o waith a diwylliant cynhyrchu bwyd a diod yn Ffrainc i’r myfyrwyr; ac roedd yn gyfle hefyd i weld pethau na fydden nhw fyth wedi dod ar eu traws nôl adre.
Un o uchafbwyntiau mawr y lleoliad oedd cynnal noson gastro i drigolion lleol a Maer y dref. Roedd y myfyrwyr Arlwyo’n gyfrifol am gynllunio a chyflawni pob agwedd o’r digwyddiad. Roedd yn gyfle arbbennig iddyn nhw roi eu sgiliau ar waith mewn cyd-destun, ac ar gyfer cynulleidfa, go iawn. Roedd y cyfan yn ffordd wych i’r myfyrwyr gwrdd â phobl leol a theimlo’n rhan o’r gymuned
Meithrin hyder a gwytnwch
Dros y pedair blynedd, cafodd o leiaf 100 o fyfyrwyr gyfle i elwa ar y fenter. I rai, dyma oedd eu profiad cyntaf o adael Lloegr, felly roedd yn gam mawr. Ac fe gafodd y profiad effaith fawr arnynt. Nododd staff y coleg eu bod wedi gweld newid sylweddol yn y myfyrwyr ar ôl iddyn nhw ddychwelyd. Roedden nhw’n fwy hyderus, yn fwy annibynnol, ac yn llawer mwy parod i roi cynnig ar bethau nad oedden nhw’n gyfarwydd â nhw.
Daeth y trip â’r myfyrwyr a’r tiwtroriaid yn agosach at ei gilydd hefyd. Bu gwelliant amlwg mewn cyfathrebu a gwaith tîm, ac fe nododd y tiwtoriaid fod y cysylltiad rhyngddyn nhw a’r myfyrwyr yn dipyn cryfach wedi iddyn nhw dreulio amser yn gweithio gyda’i gilydd mewn amgylchedd gwahanol iawn i’r arfer.
Ond y peth gorau am y prosiect oedd gweld sut y gwnaeth y myfyrwyr addasu a magu gwytnwch wrth orfod ymdopi ag amgylchiadau anghyfarwydd. Roedd myfyrwyr a oedd efallai ychydig yn ddi-hyder i ddechrau wedi datblygu ffocws a phwrpas erbyn diwedd y lleoliad, gan dyfu’n fwy penderfynol mewn sefyllfaoedd lle’r oeddynt dan ychydig o bwysau. Fe wnaethon nhw ymateb i’r her.
Effaith barhaol
Mae’r buddion wedi ymestyn y tu hwnt i’r trip. Bellach, mae pob un o’r myfyrwyr a gymerodd ran yn y prosiect yn gweithio’n llawn amser. Rydyn ni’n credu’n gryf fod eu profiad o raglen Erasmus wedi cyfrannu at y broses o’u paratoi ar gyfer y gweithle.
Mae’r prosiect hefyd wedi cryfhau’r cydweithio rhwng adrannau yn y coleg, yn ogystal â sefydlu cysylltiad parhaol â’r Château. Mae’r prosiect wedi dangos gwerth amlwg dysgu drwy brofiad a sgiliau cynaliadwy, gan roi cyfle hefyd i’r myfyrwyr gyfrannu i fywyd y gymuned ehangach drwy helpu i warchod adeilad treftadaeth pwysig.
Yn ddiweddar, rydyn ni wedi uno â Choleg Eastbourne, ac rydyn ni’n awyddus i edrych ar sut y gallwn gydweithio ar brosiectau Erasmus yn y dyfodol. Gan adeiladu ar lwyddiant y profiad hwn, rydyn ni’n gobeithio creu cyfleoedd pellach i bobl ifanc ehangu eu gorwelion, datblygu sgiliau ymarferol a phroffesiynol, a gweld beth y gallant ei gyflawni.
Felly, os ydych chi’n pendroni dros ymgeisio am gyllid gan Erasmus i gynnal prosiect, fy nghyngor i fyddai: “Ewch amdani!” Mae prosiect Erasmus yn cynnig cymaint o gyfleoedd i ddatblygu sgiliau, gwybodaeth, ac ymddygiad pobl ifanc sydd ymhell y tu hwnt i ffiniau’r cwrs y maen nhw wedi’i ddewis.
I gael mwy o wybodaeth am yr astudiaeth achos yma, ewch i fas data prosiectau Erasmus+.
Mae prosiect Erasmus yn cynnig cymaint o gyfleoedd i ddatblygu sgiliau, gwybodaeth, ac ymddygiad pobl ifanc sydd ymhell y tu hwnt i ffiniau’r cwrs y maen nhw wedi’i ddewis.
Jeff Jordan, Dirprwy Bennaeth Cwricwlwm