Cyllid Erasmus+ mwyaf erioed ar gael nawr i sefydliadau’r DU

Mae disgwyl i dros 100,000 o bobl ledled y DU elwa ar gyfleodd rhyngwladol a allai newid eu bywydau wrth i gyfnod ymgeisio am grantiau Erasmus+ agor.

Dydd Mercher 18 Tachwedd 2026

Mae’r British Council, Asiantaeth Genedlaethol y DU ar gyfer Erasmus+, wedi cyhoeddi bod y rhaglen ar agor i geisiadau. Mae dros £400 miliwn o gyllid grant ar gael i sefydliadau yn y DU mewn chwe sector: Addysg Uwch, Ysgolion, Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol, Addysg Oedolion, Ieuenctid, a Chwaraeon.

Mae rhaglen Erasmus+ yn darparu grantiau ar gyfer lleoliadau, prosiectau symudedd, a phrosiectau partneriaeth rhyngwladol, gan greu cyfleoedd i bobl ym mhob rhan o’r DU i ennill gwybodaeth a phrofiad yn Ewrop a thu hwnt.

Gall sefydliadau yn y DU wneud cais am gyllid ar gyfer prosiectau i’w staff a’r bobl maent yn gweithio â nhw – yn ddisgyblion ysgol, myfyrwyr, hyfforddeion a phrentisiaid, dysgwyr sy’n oedolion, hyfforddwyr chwaraeon llawr gwlad, neu bobl ifanc mewn grwpiau ieuenctid.

Gyda gwerth tua £400 miliwn o grantiau, mae cyfanswm y cyllid sydd ar gael drwy raglen Erasmus+ i sefydliadau yn y DU yn uwch nag erioed o’r blaen.

Bydd tua £170 miliwn o grantiau ar gael i sefydliadau addysg uwch yn y DU sydd wedi ennill achrediad Siarter Erasmus ar gyfer Addysg Uwch (ECHE).

Mae tua £100 miliwn o gyllid grant ar gael i ddarparwyr addysg a hyfforddiant galwedigaethol, tra gall darparwyr addysg oedolion gynnig am werth tua £20 miliwn o grantiau.

Bydd cyfle i ysgolion yn y DU fanteisio ar werth tua £70 miliwn o grantiau; a bydd tua £30 miliwn ar gael ar gyfer gweithgareddau ieuenctid.

Ac am y tro cyntaf, mae cyllid Erasmus+ hefyd ar gael i sefydliadau chwaraeon, gyda thua £2 miliwn wedi’i glustnodi ar gyfer sefydliadau chwaraeon llawr gwlad.

Gellir defnyddio’r cyllid i gyfrannu at gostau fel: costau teithio; llety a chynhaliaeth; ffioedd cyrsiau; fisas a chostau mynediad i wledydd; gweithgareddau dysgu ac addysgu ieithoedd; gweithgareddau hyfforddi; a mynychu cyfarfodydd a digwyddiadau. Ar gyfer y rhan fwyaf o brosiectau, disgwylir dyfarnu'r cyllid cychwynnol yn haf 2027.

Er ei fod yn aml yn cael ei gysylltu gydag astudio dramor, nid rhaglen i fyfyrwyr prifysgol yn unig yw Erasmus+. Mae’n cynnig cyfleoedd i amrywiaeth eang o sefydliadau sy’n gweithio ym meysydd addysg, hyfforddiant, ieuenctid, a chwaraeon yn y DU. Ac mae llawer o wahanol ffyrdd o gymryd rhan, gan gynnwys lleoliadau tymor byr, cyfleoedd dysgu o bell, cyfleoedd i gysgodi swyddi, gweithdai, rhaglenni cyfnewid diwylliannol, cyfleoedd i ddysgu gan gyfoedion, a gwirfoddoli.

Mae cyllid ychwanegol ar gael hefyd i helpu pobl a fyddai fel arall yn wynebu rhwystrau i gymryd rhan – gan gynnwys pobl ag anableddau, anghenion dysgu ychwanegol a chyflyrau iechyd, gofalwyr di-dâl, pobl o gefndiroedd cymdeithasol-economaidd llai breintiedig, a phobl sy’n wynebu rhwystrau daearyddol fel byw mewn ardaloedd anghysbell neu wledig. Mae croeso i bawb ymgeisio – ac yn arbennig pobl o’r grwpiau hyn.

Dywedodd Maddalaine Ansell, Cyfarwyddwr Asiantaeth Genedlaethol y DU ar gyfer Erasmus+:

“Mae Erasmus+ yn cynrychioli buddsoddiad anferth ym meysydd addysg, hyfforddiant, ieuenctid, a chwaraeon yn y DU. Rydyn ni am weld ceisiadau o bob cod post a phob sector: myfyrwyr mewn addysg uwch a phellach, prentisiaid, hyfforddeion, dysgwyr sy’n oedolion, disgyblion ysgol, pobl ifanc a’r gweithwyr proffesiynol a gwirfoddolwyr sy’n gweithio gyda nhw – mae cyfleoedd ar gael iddynt i gyd i feithrin sgiliau ar gyfer eu gwaith a’u bywydau.

“Fel yr Asiantaeth Genedlaethol ar gyfer Erasmus+, bydd y British Council yn gweithio’n agos gydag Adran Addysg Llywodraeth y DU; Yr Adran Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon; Llywodraethau Datganoledig y DU; a’r Comisiwn Ewropeaidd i sicrhau ein bod yn gwneud y gorau posibl o’r cyfleoedd mae’r rhaglen yn eu cynnig i’r DU.”

Dywedodd y Gweinidog Sgiliau, Jacqui Smith: “Bydd Erasmus+ yn agor drysau i genhedlaeth newydd – gan roi cyfle i fyfyrwyr, prentisiaid, ac athrawon ym mhob rhan o’r wlad i ehangu eu gorwelion a’u profiad o’r byd wrth feithrin sgiliau newydd, magu hyder, a meithrin cysylltiadau newydd

“Nid rhaglen i fyfyrwyr ieithoedd yn unig yw hon. O ysgolion i golegau, ac o ddisgyblion ysgol i hyfforddwyr chwaraeon, rwy am i bawb fanteisio ar y cyfle yma, meithrin cysylltiadau rhyngwladol, a sicrhau bod y cyfleoedd hyn i newid bywydau yn cyrraedd y bobl hynny a fydd yn elwa fwyaf.”

Dywedodd y Gweinidog Cysylltiadau Ewropeaidd, Hamish Falconer AS: “Mae’r Llywodraeth yma’n credu bod pobl ifanc yn haeddu cyfleoedd a fydd yn ehangu eu gorwelion a hybu eu gyrfaoedd am flynyddoedd i ddod. Bydd ein cysylltiad â rhaglen Erasmus+ nid yn unig yn hwb i fyfyrwyr, ond hefyd yn rhoi cyfle i brentisiaid, athrawon a sefydliadau cymunedol ledled y DU i feithrin sgiliau newydd dramor er budd eu cymunedau a’u bywoliaeth gartref.”