Eich camau nesaf - nawr bod eich sefydliad wedi cael achrediad Siarter Erasmus ar gyfer Addysg Uwch (ECHE)

Unwaith eto, llongyfarchiadau ar ennill achrediad Siarter Erasmus ar gyfer Addysg Uwch, sy’n agor y drws i gymorth cyllid.

Nawr, mae’n amser i adfywio ac ehangu cylch eich partneriaethau, codi ymwybyddiaeth o Erasmus+ ac annog myfyrwyr o bob cefndir i gymryd rhan, hybu diddordeb ymhlith academyddion yn eich sefydliad, a sicrhau bod digon o adnoddau gennych i fanteisio i’r eithaf ar y cymorth cyllidol sydd nawr ar gael i chi.

Nesaf, rydym yn argymell cymryd y camau canlynol:

  1. Os nad ydych wedi gwneud yn barod, tanysgrifiwch i gylchlythyr Erasmus+ i gael y newyddion diweddaraf am y rhaglen.
  2. Nodwch yn glir pwy sy’n gyfrifol/atebol am wahanol agweddau ac adnoddau rhaglen Erasmus+ yn adrannau ymgysylltu rhyngwladol, adrannau addysgu, a gwasanaethau proffesiynol eich sefydliad, fel bod cyfrifoldeb am ddatblygu partneriaethau, symudeddau, a chyfleodd cyllido yn glir.
  3. Adolygwch eich prosesau mewnol a’ch gallu i reoli rhaglenni symudedd Erasmus+, gan gynnwys enwebu, gwneud ceisiadau, cytundebau, gweinyddu grantiau, cydnabyddiaeth academaidd, a chefnogaeth i fyfyrwyr – yn enwedig nawr bod mwy o gyllid ar gael i chi.
  4. Adolygwch eich gallu fel sefydliad i reoli prosiectau datganoledig (dan ofal yr Asiantaeth Genedlaethol) yn ogystal â phrosiectau canolog (a reolir yn uniongyrchol gan y Comisiwn Ewropeaidd) o dan drefn Cam Gweithredu 2 rhaglen Erasmus+.
  5. Anfonwch hysbysiad ffurfiol at sefydliadau partner drwy ebost gyda gwybodaeth am y myfyrwyr a staff o’r DU sy’n cymryd rhan yn y symudeddau, fel y gellir diweddaru’r cytundebau rhyngwladol sy’n bodoli’n barod rhwng sefydliadau.
  6. Trosglwyddwch eich cytundebau symudedd myfyrwyr i dempledi Cytundeb Rhyngsefydliadol y Comisiwn Ewropeaidd.
  7. Cysylltwch â’ch partneriaid Ewropeaidd presennol sydd ag achrediad ECHE, yn ogystal â sefydliadau a darparwyr Addysg Uwch newydd, i adfywio partneriaethau a/neu i ddechrau paratoi ar gyfer partneriaethau newydd o dan drefn Cam Gweithredu 131 a Cham Gweithredu 220.
  8. Adolygwch eich partneriaethau rhyngwladol, a nodwch pa rai y gellir eu datblygu drwy Gam Gweithredu 131 a/neu Gam Gweithredu 171.
  9. Ewch ati i ddatblygu deunydd i danio brwdfrydedd myfyrwyr o bob cefndir – i’w hannog i fanteisio ar gyfleoedd symudedd Erasmus+ a chynyddu’r nifer sy’n cymryd rhan. Cadwch lygaid am ymgyrch myfyrwyr y British Council a fydd yn cael ei lansio’r mis yma.
  10.  Gwnewch yn siwr fod pobl yn gwybod fod cymorth ariannol cynhwysfawr ar gael i fyfyrwyr sydd â llai o gyfleoedd, fel bod y cynnydd mewn ymwybyddiaeth yn troi’n gyfranogiad.
  11. Rhowch sylw i symudeddau ar gyfer staff hefyd – fel ffordd o feithrin cysylltiadau rhyngsefydliadol, ac fel ffordd o gryfhau/adfywio partneriaethau Ewropeaidd.
  12. Gwnewch yn siwr fod cylchlythyron a chyfathrebiadau eich prifysgol yn cynnwys gwybodaeth am raglen Erasmus+; gan dargedu academyddion a’r staff gwasanaethau proffesiynol. Gall hyn gynnwys rhannu gwybodaeth am arfer gorau, trosolwg cyffredinol o gyfleoedd y rhaglen, a ffurflenni mynegi diddordeb.
  13. Cyhoeddwch Ddatganiad Polisi Erasmus+ a Siarter Erasmus ar gyfer Addysg Uwch ar eich gwefan.
  14. Cadwch olwg am newyddion am weminarau Erasmus+ ar gyfer sefydliadau Addysg Uwch - i’ch helpu ar eith taith.