View under a brick bridge of moored boats reflected in the water of a canal, Venice, Italy

Pro-Muoviti! Dysgu am sut i hybu ein hardal, diolch i Erasmus+

Nod y prosiect oedd ehangu gweithgareddau rhyngwladol yr ysgol, gan roi cyfle i ddysgwyr fanteisio ar hyfforddiant modern ac effeithiol mewn ardaloedd gwledig ac anghysbell. Drwy gynnig lleoliadau 30 diwrnod gyda chwmnïau yn Sbaen, Cyprus, a Malta, roedd y prosiect yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddysgu’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer twristiaeth araf a chynhyrchu bwyd a gwin, gan gynnwys sgiliau entrepreneuraidd sy'n ddefnyddiol i redeg busnes a hybu datblygiad yng nghefn gwlad.

Gwledydd a gymerodd ran

Yr Eidal, Cyprus, Sbaen, Malta

Cyfnod

2022-23

Cyllid

€62,956

Math o brosiect

Prosiectau tymor byr – symudeddau i ddysgwyr a staff ym maes Addysg a Hyfforddiant Galwedigaetho

Cefndir

Yn nyffrynnoedd Taro a Ceno yng ngogledd yr Eidal, mae cysylltiad agos rhwng bywyd bob dydd a’r tir. Mae ardal Borgo Val di Taro, yn yr Apeninau Twsganaidd-Emilaidd, yn ardal fynyddig a gwledig sy’n nodedig am ei harddwch naturiol, traddodiadau bwyd, a threftadaeth ddiwylliannol. Ond mae hefyd yn wynebu problem ddifrifol: diboblogiad. Ers degawdau bellach, mae llawer o’r trigolion, yn enwedig pobl ifanc, wedi symud i drefi mwy a diwydiannol, i chwilio am gyfleodd.

Roedd ysgol uwchradd Istituto di Istruzione Superiore Zappa Ferm eisiau helpu i newid hynny. Gwelodd yr ysgol y gallai addysg chwarae rhan bwysig wrth roi rhesymau i bobl ifanc aros, dychwelyd, neu greu dyfodol iddynt eu hunain yn yr ardal leol. Ond roedd angen mwy na dysgu traddodiadol mewn ystafell ddosbarth ar y myfyrwyr. Roedd angen sgiliau ymarferol arnynt i’w helpu i hyrwyddo’r dyffrynnoedd a chreu cyfleoedd newydd ym meysydd twristiaeth, lletygarwch, a chynhyrchu bwyd.

Dyma oedd man cychwyn ‘Pro-Muoviti! – prosiect a luniwyd i gysylltu profiad rhyngwladol â mentrau datblygu lleol.

Amcanion: O falchder lleol i sgiliau ymarferol

Nod y prosiect oedd rhoi cyfle i fyfyrwyr gael profiad hyfforddi modern a rhyngwladol - er eu bod yn byw mewn ardal wledig ac anghysbell. Drwy weld sut roedd mannau gwledig eraill yn defnyddio twristiaeth, cynhyrchu bwyd, a hunaniaeth leol i greu cyfleoedd, roedd partneriaid y prosiect yn gobeithio y byddai’r myfyrwyr yn dychwelyd gyda syniadau newydd ar gyfer eu cymunedau lleol.

Rhoddwyd sylw arbennig i dwristiaeth araf a chynaliadwy: annog ymwelwyr i ddarganfod tirlun, diwylliant, a thraddodiadau dyffrynnoedd Taro a Ceno mewn modd hamddenol a chynaliadwy. Cafodd y myfyrwyr gyfle hefyd i feithrin sgiliau ym meysydd cynhyrchu bwyd a gwin, entrepreneuriaeth, a datblygu busnesau gwledig. Byddai’r sgiliau hyn yn help a sbardun iddyn nhw ddychmygu a chreu gwasanaethau yn eu bröydd lleol, yn hytrach na mynd i chwilio am waith mewn llefydd eraill.

Roedd pwyslais mawr ar sgiliau gwyrdd hefyd. Mae diogelu’r tirlun yn hanfodol i gynnal harddwch y dyffrynnoedd a sicrhau ffyniant economaidd hirdymor. Cafodd y dysgwyr gyfle i edrych ar dwristiaeth, cynnyrch lleol, a dulliau sy’n ystyriol o’r amgylchedd.

Nid prosiect ar gyfer myfyrwyr yn unig oedd hwn. Cymerodd athrawon ran hefyd, gan fanteisio ar gyfleoedd i ddiweddaru eu sgiliau ac edrych ar ddulliau addysgu mwy cynhwysol. Yn benodol, roedd yr ysgol eisiau canfod ffyrdd o fynd i’r afael ag arwahanrwydd daearyddol sy’n gallu cyfyngu cyfleoedd myfyrwyr.

Rhoi’r prosiect ar waith

Cafodd amcanion y prosiect eu gwireddu drwy gyfres o symudeddau rhyngwladol. Cymerodd cyfanswm o 21 o fyfyrwyr ran mewn lleoliadau hyfforddiant cwricwlaidd tymor byr a barhaodd tua 30 diwrnod. Cawsant gyfle i weithio gyda chwmnïau yn y sectorau twristiaeth a bwyd a gwin yn Las Palmas yn Sbaen, Cyprus, a Malta.

Drwy’r lleoliadau hyn cafodd y dysgwyr brofiad uniongyrchol o amgylcheddau proffesiynol. Yn hytrach na thrafod lletygarwch, twristiaeth, neu ddulliau cynhyrchu bwyd yn yr ystafell ddosbarth yn unig, cawsant gyfle i weld sut mae’r sectorau hyn yn gweithio’n ymarferol mewn gwahanol gyd-destunau a gwledydd Ewropeaidd. Cawsant gyfle i weld dulliau gweithio newydd a chwrdd â phobl o wahanol gefndiroedd, a chawsant eu herio i ddefnyddio eu sgiliau cyfathrebu mewn sefyllfaoedd byd go iawn.

Cafodd dau aelod o staff gyfle i fanteisio ar ymweliadau cysgodi swydd dros gyfnod o chwe diwrnod mewn ysgol yng Nghyprus. Roedd eu prif ffocws ar ganfod technegau a allai wneud addysgu a dysgu’n fwy dynamig a chynhwysol, yn enwedig i fyfyrwyr sy’n byw mewn ardaloedd anghysbell ac yn teimlo’n ynysig. Rhoddodd yr ymweliadau gyfle i’r athrawon rannu syniadau am deilwra dulliau addysgu pwrpasol, defnyddio adnoddau digidol, a chydweithio â chwmnïau.

Canlyniadau: Llysgenhadon newydd i’r fro

Dywedodd 95% o’r dysgwyr a gymerodd ran eu bod yn teimlo bod eu sgiliau proffesiynol wedi gwella - yn benodol, sgiliau’n ymwneud â hybu twristiaeth a chynnyrch lleol, sef yr union sgiliau roedd yr ysgol wedi gobeithio y byddent yn eu meithrin. Nododd 78% o’r dysgwyr eu bod yn credu bod eu sgiliau iaith wedi gwella hefyd.

Roedd y budd i athrawon lawn mor bwysig. Nododd staff fod ganddynt well ymwybyddiaeth o ddulliau addysgu sy’n amgylcheddol gynaliadwy ac adnoddau ar-lein y gellid eu defnyddio i oresgyn rhwystrau daearyddol. Hefyd, nododd yr athrawon eu bod wedi gwella eu gallu i deilwra profiadau dysgu - yn enwedig ar gyfer myfyrwyr sy’n ei chael hi’n anodd yn y dosbarth, neu fyfyrwyr sydd ddim yn siaradwyr brodorol.

Canlyniad pwysig arall i waith y prosiect oedd hybu gwell cysylltiadau rhwng byd addysg a byd busnes. Datblygodd yr athrawon sgiliau cynllunio profiadau addysgol gyda chwmnïau; ac fe gafodd yr ysgol gyfle i ehangu ei rhwydwaith Ewropeaidd – gyda golwg ar brosiectau yn y dyfodol.

Yn bwysicaf oll, rhoddodd Pro-Muoviti! olwg newydd ar eu bro i’r dysgwyr. Dangosodd y prosiect nad oedd yn rhaid gweld natur wledig y dyffrynnoedd fel gwendid na rhwystr. Gyda’r cyfuniad iawn o sgiliau, creadigrwydd, ac ysbrydoliaeth rhyngwladol, gall fod yn sail i dwristiaeth gynaliadwy, gweithgareddau entrepreneuraidd, a dyfodol mwy gobeithiol.

I gael mwy o wybodaeth am yr astudiaeth achos yma, ewch i fas data prosiectau Erasmus+: https://erasmus-plus.ec.europa.eu/projects/search/details/2022-1-IT01-KA122-VET-000071015