Piazza Vittorio Veneto in the early morning

Tadau - yn y gêm

Roedd y prosiect yma’n edrych ar sut mae gofal plant a thasgau'r cartref yn cael eu rhannu’n anghyfartal rhwng mamau a thadau. Cafodd ei ysgogi gan ddata cyflogaeth yr UE a oedd yn dangos fod bwlch sylweddol rhwng dynion a menywod, ac roedd yn annog tadau yn yr Eidal, y Ffindir, a Chroatia i gymryd mwy o ran ym mywyd y teulu. Roedd y prosiect yn hybu rhannu dyletswyddau gofal plant, hybu cyflogaeth menywod, a herio disgwyliadau traddodiadol am fod yn dad.

Gwledydd a gymerodd ran

Croatia, Y Ffindir, Yr Eidal

Cyfnod

2022-23

Cyllid

€60,000

Math o brosiect

Partneriaeth ar raddfa fach ym maes Addysg Oedolion

Cefndir: Ail ystyried rolau yn y teulu

Mewn llawer o deuluoedd, menywod sydd dal yn bennaf gyfrifol am ofalu am blant a thasgau’r cartref. Gall hyn fod yn wir hyd yn oed pan fo’r ddau riant yn gweithio. Yn aml mae disgwyl i fenywod ysgwyddo’r baich o ofalu am blant, tra bod dynion yn fwy tebygol o fwrw ymlaen â’u swyddi a manteisio ar gyfleoedd gyrfa. O ganlyniad, yn amlach na heb nid yw menywod yn gallu buddsoddi’r un faint o amser ac egni i’w gyrfaoedd â’u cydweithwyr gwrywaidd.

Dechreuodd Padri in gioco (Tadau - yn y gêm) gyda dadansoddiad o ystadegau cyflogaeth y Comisiwn Ewropeaidd yn 2019. Ar draws yr UE, ar gyfartaledd, roedd 74% o ddynion mewn gwaith cyflogedig, o’i gymharu â 63% o fenywod. Roedd y bwlch yn ffigurau ar gyfer rhieni â thri neu fwy o blant yn dipyn mwy – 85% o ddynion, o’i gymharu â 58% o fenywod.

Dan arweiniad EuroMamme yn yr Eidal, mewn partneriaeth â Miessakit Ry yn y Ffindir a Dante yng Nghroatia, aeth y prosiect ati i daclo’r anghydbwysedd yma. Gofynnwyd y cwestiwn: sut gall tadau gyfrannu mwy at ddyletswyddau gofalu am blant a chyfrifoldebau teuluol yn gyffredinol - yn enwedig yn ystod cyfnod beichiogrwydd, y cyfnod wedi geni plant, a blynyddoedd cynnar plant. Nod y prosiect oedd annog

rhannu’r cyfrifoldebau’n fwy teg, gan helpu mamau i ffeindio gwell cydbwysedd rhwng bod yn rhiant a gweithio, ac annog tadau i gymryd rhan fwy gweithredol ym mywydau eu plant.

Amcanion

Roedd y prosiect yn anelu i helpu tadau ddeall pwysigrwydd eu cyfraniad i fywyd y teulu. Gall cymryd rhan weithredol ym mywyd y teulu helpu tadau i feithrin cysylltiadau cryfach â’u plant, a rhoi cefnogaeth ymarferol ac emosiynol i’w partneriaid.

Yn ogystal, roedd y partneriaid eisiau helpu tadau i ddeall anghenion plant yn well, a deall mwy am fod yn rhiant, a pherthnasoedd teuluol. Roedd hynny’n cynnwys edrych ar sut y gellir rhannu cyfrifoldebau yn y cartref yn fwy teg, ac effaith disgwyliadau traddodiadol ar famau a thadau.

Un o amcanion eraill y prosiect oedd hybu mwy o gydraddoldeb mewn teuluoedd. Pan fo tadau’n cymryd mwy o ran yn y gwaith o ofalu am blant a gwaith tŷ yn gyffredinol, gall hynny roi mwy o ryddid i famau barhau ag addysg, gwaith cyflogedig, a gweithgareddau personol.

Roedd cynaliadwyedd amgylcheddol yn un o flaenoriaethau allweddol y prosiect. Roedd gwneud yn siwr ein bod ni’n defnyddio arferion eco-gyfeillgar yn rhan annatod o gynllun a chynnwys y gweithgareddau hyfforddi. Roedd cynhwysiant ac amrywiaeth lawn mor bwysig. Rhoddwyd mesurau ar waith i sicrhau hybu cyfranogiad ystyrlon a chynhwysol yn y gweithgareddau dysgu o bell a’r symudeddau.

Defnyddiwyd holiaduron i asesu gwybodaeth, agweddau, a phrofiadau’r cyfranogwyr yn ystod y prosiect. Bu hynny’n help i’r partneriaid adolygu’r hyn roedd cyfranogwyr wedi’i ddysgu, a nodi newidiadau yn eu dealltwriaeth o fod yn dad.

Rhoi’r prosiect ar waith

Dechreuodd y gwaith gyda chyfarfod ar-lein ym mis Ebrill 2022. Cytunodd y sefydliadau partner ar gynllun y prosiect, trafodwyd y gweithgareddau arfaethedig, a chytunwyd ar ddelwedd weledol gyffredinol y prosiect.

Roedd y cyfarfod rhyngwladol a gynhaliwyd yn Helsinki yn Rhagfyr 2022 yn un o brif weithgareddau’r prosiect. Dewiswyd y Ffindir i gynnal y digwyddiad oherwydd ei hanes a’i phrofiad o gefnogi dynion a thadau. Ym mhencadlys Miessakit, cafodd cyfranogwyr gyfle i glywed am waith y sefydliad gyda dynion, ac archwilio prosiectau a luniwyd i hybu lles dynion ac annog eu cyfraniad i fywyd eu teuluoedd.

Cymerodd y tadau ran yn y sgyrsiau, ac fe rannodd y partneriaid enghreifftiau, astudiaethau achos, ac arferion da gyda’r cyfranogwyr. Yn ogystal, treuliwyd amser yn cymharu’r berthynas rhwng tadau a’u plant mewn gwahanol rannau o Ewrop. Cafwyd trafodaeth am ddeddfau cenedlaethol hefyd, gan gynnwys cyfnodau

mamolaeth/tadolaeth, gwahanu, ysgariad, a gwarcheidwaeth plant. Dangosodd y sgyrsiau hyn fod bywyd teuluol yn cael ei siapio nid yn unig gan ddewisiadau personol, ond hefyd gan reolau llefydd gwaith, gwasanaethau cyhoeddus, a disgwyliadau cymdeithasol.

Cafodd yr ail gyfarfod rhyngwladol ei gynnal yn Rhufain ym mis Mawrth 2023. Bu cyfranogwyr yn cymharu systemau teuluol a chyfnewid syniadau ymarferol am reoli’r cartref a magu plant. Cwblhaodd y cyfranogwyr holiaduron, i weld beth roedden nhw wedi’i ddysgu drwy gymryd rhan yn y cyfarfodydd.

Daeth y prosiect i ben gyda chyfarfod yn Zagreb ym mis Ebrill 2023. Cafodd y partneriaid gyfle i adolygu canlyniadau’r prosiect, trafod mentrau cydweithio yn y dyfodol, ac ystyried ffyrdd y gallai’r gwaith barhau y tu hwnt i’r prosiect.

Canlyniadau

Drwy’r prosiect cafodd y cyfranogwyr gyfle i ystyried eu dealltwriaeth o’r hyn mae bod yn dad yn ei olygu, ac ystyried sut y gallent gymryd mwy o gyfrifoldeb am ofal plant a gwaith tŷ. Anogwyd y tadau i weld magu plant fel cyfrifoldeb gweithredol ar y cyd, yn hytrach na rôl gefnogol yn unig.

Rhoddodd y prosiect syniadau ymarferol i’r tadau am sut i chwarae mwy o ran ym mywydau bob dydd eu plant. Drwy gwrdd â thadau a sefydliadau o wledydd eraill cafodd y cyfranogwyr gyfle i gymharu profiadau a dysgu am ddulliau gweithredu y gellid eu haddasu i’w sefyllfaoedd nhw eu hunain.

I rannu’r neges yn ehangach, defnyddiodd y prosiect ei wefan, cyfryngau cymdeithasol, ac ebyst i gyrraedd tadau, partneriaid, a chymunedau lleol. Anogwyd y cyfranogwyr i rannu’r hyn yr oeddent wedi’i ddysgu gyda dynion eraill, i hybu sgwrs ehangach am gynyddu cyfraniad tadau a sicrhau bod gwaith gofalu am blant yn cael ei rannu’n fwy teg.

I gael mwy o wybodaeth am yr astudiaeth achos yma, ewch i fas data prosiectau Erasmus+:  https://erasmus-plus.ec.europa.eu/projects/search/details/2021-1-IT02-KA210-ADU-000034929