Bore Coffi Gwybodfan Celf y DU - Symudeddau Rhyngwladol i Artistiaid: Cyfle i gysylltu a rhannu gwybodaeth am Erasmus+
- Dyddiad: Dydd Llun, 5 Hydref, 13:30 - 14:30 GMT+1
- Math o ddigwyddiad: Ar-lein
Mae’r British Council yn edrych ymlaen at eich croesawu i’n gweminar ar-lein gyda Gwybodfan Celf y DU. Bydd y sesiwn yn gyfle i ddarganfod mwy am y cyfleoedd mae rhaglenni Ieuenctid ac Addysg Oedolion Erasmus+ yn eu cynnig i sefydliadau sy’n gweithio yn sector celfyddydau a diwylliant y DU.
Cynnwys y weminar:
- Beth yw Erasmus+ a phwy sy’n gallu cymryd rhan?
- Pa gyfleoedd sydd ar gael yn benodol ar gyfer sector y celfyddydau a diwylliant yn y DU?
- Gofynion allweddol, meini prawf cymhwysedd, a chyllid
- Sut i ymgysylltu â phartneriaid?
- Astudiaethau achos gan bobl sydd wedi cymryd rhan mewn rhaglenni Erasmus+ blaenorol
- Sesiwn Holi ac Ateb gydag arbenigwyr y rhaglen
Bydd y sesiynau i gyd yn cael eu cynnal yn Saesneg. Gallwch ddarganfod mwy am raglen Ieuenctid Erasmus+ yma a rhaglen Addysg Oedolion Erasmus+ yma.
Rydyn ni’n edrych ymlaen at eich croesawu a chefnogi eich taith Erasmus+!